Diwrnodau Diogelu Dŵr gyda Dŵr Cymru ac NSTS
04 April 2024
Mewn cydweithrediad â Dŵr Cymru a’r Cynllun Profi Chwistrellwyr Cenedlaethol, mae’r VI yn trefnu cyfres o ddiwrnodau Diogelu Dŵr ledled Cymru, gyda’r cyntaf ar Ynys Môn.
Mae'r gwanwyn yn amser tyngedfennol i ffermwyr gynllunio eu defnydd o blaladdwyr a gwrtaith er mwyn uchafu cynhyrchiant cnydau ac effeithlonrwydd maetholion.
Mae Dŵr Cymru eisiau gweithio gyda chymunedau ffermio yn ein dalgylchoedd dŵr yfed i weld sut gall cefnogi arferion da fod o fudd i effeithlonrwydd fferm ac ansawdd dŵr.
Mewn partneriaeth â’r NSTS a VI rydym yn cynnal cyfres o weithdai ar ddefnyddio maetholion a phlaladdwyr yn effeithiol i helpu ffermwyr gael y mwyaf o’u gwasgariadau.
O’r pwysigrwydd o gynllunio gwasgariadau i gynnal a chadw, gosod a phrofi peiriannau, bydd hwn yn weithdy hynod ddefnyddiol i bob ffermwr a chontractwr fynychu.
Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o fanylion a sut i gofrestru
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o weithdai diogelu dŵr a drefnwyd gan Dŵr Cymru mewn cydweithrediad ag NSTS a’r VI:
Dydd Mawrth 21ain o Fai, Coleg Sir Gâr, Campws Gelli Aur, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA32 8NJ
Dydd Iau 6ed o Fehefin, Ludlow/Borders (lleoliad i'w gadarnhau)
Dydd Gwener 7fed o Fehefin, Fferm Upper Pendre Farm, Llan-gors, Powys, LD3 7TT
Ymwelwch yn ôl am fwy o fanylion.